Cadw status quo gwasanaethau Hywel Dda 'ddim yn bosib'
Mae newidiadau pellgyrhaeddol i'r gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru wedi cael eu hamlinellu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Ar hyn o bryd mae aelodau bwrdd iechyd yn cyfarfod i drafod tri chynnig, fydd, os cawn nhw eu cymeradwyo, yn cael eu rhoi i ymgynghoriad cyhoeddus dros y 12 wythnos nesaf.
Fe fyddai pob un o'r opsiynau yn gweld Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli ei statws fel ysbyty cyffredinol 24 awr y dydd a byddai Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin hefyd yn colli gwasanaethau allweddol - gan gynnwys yr uned frys.
Yn ôl Dr Meinir Jones, cyfarwyddwr clinigol trawsnewid y bwrdd iechyd, dyw hi ddim yn bosib i'r status quo aros yr un peth.