Newidiadau Hywel Dda: 'Fel bod yn yr ysbyty ond gartref'
Mae newidiadau pellgyrhaeddol i'r gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru wedi cael eu hamlinellu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Fel rhan o hyn mae'r bwrdd wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn gofal yn y gymuned ac yn enwedig yng nghartrefi cleifion.
Un sydd eisoes wedi gweld budd o'r math yma o ofal yw Gareth Harries o Bont-iets, Sir Gâr.
Ers iddo gael trafferthion gyda'i goes mae nyrsys fel Wendy Rees yn ymweld ag ef yn ei gartref, gan olygu nad oes rhaid iddo fynd i'r ysbyty.