Drakeford eisiau 'rhoi dewis' i aelodau'r blaid Lafur

Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod wedi penderfynu sefyll am arweinyddiaeth Llafur Cymru er mwyn "rhoi dewis" i aelodau'r blaid Lafur.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf dywedodd ei fod yn cynrychioli safbwynt canol chwith y blaid, a'i bod hi'n bwysig bod y safbwynt hynny'n cael ei glywed.

Yr ysgrifennydd cyllid yw'r gwleidydd cyntaf i ddatgan y bydd yn ceisio olynu Carwyn Jones, ar ôl iddo ddweud yn ystod y penwythnos y byddai yn rhoi'r gorau i'r swydd.