'Cwestiynau pam' dim trwydded Uwch Gynghrair i Fangor

Bydd CPD Dinas Bangor yn disgyn allan o Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf erioed wedi iddyn nhw fethu yn eu hapêl am drwydded ddomestig.

Roedd y clwb wedi apelio yn erbyn penderfyniad cynharach gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio â rhoi trwydded iddyn nhw ar gyfer tymor 2018/19, ond fe gawson nhw glywed ddydd Iau eu bod yn aflwyddiannus.

Dywedodd Marc Lloyd Williams - prif sgoriwr yr Uwch Gynghrair erioed a chyn-ymosodwr y Dinasyddion - bod cwestiynau i'w gofyn am pam nad ydyn nhw wedi sicrhau'r drwydded, gyda'r clwb yn mynnu nad oes ganddyn nhw "ddyledion dybryd".