'Crisis' heb fwy o arian i wasanaethau plant

Mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau lleol yn dweud bod gwasanaethau plant yn agos at fod mewn sefyllfa o argyfwng.

Daw'r sylwadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth i ffigyrau diweddar ddangos cynnydd yn nifer y ceisiadau i'r llys teulu er mwyn rhoi plant mewn gofal.

422 oedd y ffigwr yn 2008/9 ond 1,050 yw'r ffigwr yn 2017/18.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod y pwysau sy'n cael ei rhoi ar awdurdodau lleol ac wedi cymryd camau i gefnogi teuluoedd fel eu bod yn gallu parhau i ofalu am eu plant.

Yn ôl Geraint Hopkins, dirprwy lefarydd dros blant Cyngor Llywodraeth Leol Cymru mae yna beryg y bydd y sefyllfa yn gwaethygu oni bai bod mwy o gyllid yn cael ei rhoi i wasanaethau plant.