Clwb golff yn 'gwahaniaethu ar sail rhyw' yn ôl aelod

Mae golffiwr sy'n honni fod rheolau ei chlwb lleol yn gwahaniaethu yn ei herbyn ar sail rhyw yn ystyried mynd i gyfraith.

Yn ôl Lowri Roberts mae'n anoddach i ferched chwarae yn gystadleuol ar fore Sadwrn am fod un cwrs wedi ei glustnodi i'r dynion.

Mae cymdeithas aelodau Clwb Golff Parc Cottrell ym Mro Morgannwg yn gwrthod yr honiadau, gan fynnu bod y cwrs yn agored i bawb.