Galw am wario arian PFI Ysgol Penweddig ar ysgolion bach

Mae cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth wedi rhybuddio y gallai yr ysgol wynebu "colli aelod o staff y flwyddyn" oherwydd y gost o dalu arian yn ôl i gwmni preifat.

Yn ôl Mark Rees, mae'r costau sydd ynghlwm â chynllun PFI yn niweidiol i gyllideb Penweddig ac i addysg uwchradd Gymraeg yng Ngheredigion.

Mae Cyngor Ceredigion yn dweud fod pob ysgol yn wynebu heriau ariannol o ganlyniad i gynnydd cyson yn eu costau.

Mae'r Cynghorydd Alun Lloyd Jones yn aelod o'r pwyllgor craffu addysg a dywedodd y gallai'r arian sy'n cael ei wario ddiogelu dyfodol ysgolion bach yn y sir.