'Asedau hanesyddol Merthyr Tudful yn di-ben-draw'
Mae angen gwario hyd at £50m i greu canolfan o bwys ym Merthyr Tudful fyddai'n dathlu hanes diwydiannol yr ardal, yn ôl adroddiad.
Ar ddechrau'r 19eg ganrif, Gwaith Haearn Cyfarthfa oedd y mwyaf yn y byd.
Mae'r ymchwil gan Gomisiwn Cynllunio Cymru yn dweud dylai Castell Cyfarthfa - y parc a'r ardal o'i amgylch - gael ei ddatblygu'n ganolfan dreftadaeth o bwys rhyngwladol.
Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Geraint Talfan Davies, bod asedau hanesyddol y dref yn "ddi-ben-draw", a bod angen eu cyflwyno mewn ffordd deilwng.