'Nyrsys da' yn gadael y proffesiwn
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion 9 yn dangos bod mwy na 1,600 o swyddi nyrsio gwag wedi bod ar draws Cymru ym mis Mawrth eleni.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd â'r nifer uchaf o swyddi gwag, gydag Abertawe Bro Morgannwg yn ail.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cydnabod fod lefelau staffio ar rai wardiau yn ysbytai Cymru yn gallu bod yn beryglus o isel.
Yn ôl Mair Dowell, oedd yn nyrsio am 50 mlynedd, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ac mae "nyrsys da" yn gadael y proffesiwn.