Tawel Fan: Galwad i wrthod rhannau o adroddiad
Dros wythnos ers cyhoeddi'r adroddiad i'r honiadau o gamdriniaeth ar ward iechyd meddwl yn y gogledd, bu teuluoedd yn cwrdd â swyddogion bwrdd iechyd yn Llanelwy nos Lun.
Mae rhai o'r teuluoedd yn dweud eu bod eisiau i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrthod rhannau o'r adroddiad i ofal cleifion ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd
Roedd yr adroddiad diweddara ar y ward wedi dod i'r casgliad nad oedd camdriniaeth sefydliadol yno - yn groes i ganfyddiadau adroddiad blaenorol, oedd wedi cymharu'r ward a sŵ.
Dywedodd rhai aelodau wrth y BBC fod pryderon wedi eu codi ynglŷn â rhannu gwybodaeth bersonol rhwng y panel annibynnol HASCAS (Health and Social Care Advisory Service) a Chyngor Sir Dinbych sydd wedi llunio adroddiad Gwarchod Oedolion Bregus ar gleifion Tawel Fan.
Dyma adroddiad Siôn Pennar.