Bluestone i adeiladu pentref gwyliau ar Ynys Môn
Mae cwmni Bluestone wedi cyhoeddi mai nhw fydd yn adeiladu pentref gwyliau gwerth dros £100m allai greu cannoedd o swyddi ar Ynys Môn.
Fe fydd y cynllun, fydd yn cynnwys 500 o gabanau gwyliau yn cael eu hadeiladu ar stad Penrhos ar Ynys Gybi.
Mae disgwyl i'r pentref fod yn barod erbyn 2021.
Dyma adroddiad Dafydd Gwynn.