Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd 2018
- Cyhoeddwyd
Rhai o olygfeydd y maes ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Yr Urdd 2018 yn Llanelwedd.

Daeth Suji yr holl ffordd o Gorea i ennill ail wobr am adrodd wedi i'w theulu symud yno o Borthaethwy yn ddiweddar. Mae wedi ei hyfforddi dros Skype gan ei chyn athrawes yng Nghymru, Eleri Jones

Oes rhywun wedi gweld Megan a Huw? Dyw Siwan ac Endaf ddim yn edrych yn rhy bryderus fod eu plant wedi troi'n ddau Mr Urdd

Mae'n hwyl cyrraedd y llwyfan ond mae'n dda cael gorffen eich darn hefyd

Alisdair yn hapus yn tostio'i falws melys ei hun

Mae'r heddlu selffis ar y maes ...

Chi byth yn rhy ifanc i fwynhau'r cystadlu yn y pafiliwn



Mae'r adnoddau chwarae a dringo'n arbennig o dda eleni

Cyfle i ddal fyny gyda sgwrs gefn llwyfan

Cyfle i gael hufen iâ i frecwast

Alun 'Tav' Evans, Gwyneth Williams a John Meurig Edwards yw llywyddion arbennig dydd Llun

Roedd digon o waith i'r stiwardiaid prysur yn y maes parcio fore Llun

Ond er bod ciwiau, doedd dim problemau mawr i gyrraedd y rhagbrofion ben bore
Mwy o'r Urdd: