'Dim achos' am ffordd newydd at Faes Awyr Caerdydd

Gallai heol newydd i wella cysylltiadau trafnidiaeth â Maes Awyr Caerdydd greithio "ysgyfaint gwyrdd" y brifddinas, medd ymgyrchwyr.

Byddai'r datblygiad, i gysylltu cyffordd 34 yr M4 gyda ffordd yr A48, yn torri drwy hyd at saith o goetiroedd hynafol.

Yn ôl yr actores Mali Tudno Jones, sy'n byw ym Mhendeulwyn, does "dim digon o dystiolaeth cryf" i gyfiawnhau lôn newydd.

Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger aeth i'w holi.