Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd 2018

  • Cyhoeddwyd

Rhai o'r golygfeydd ar y Maes ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd 2018 yn Llanelwedd.

pan dyw'r plant ddim ar y trampolins mae'n gyfle ir staff gael tro
Disgrifiad o’r llun,

Pan dyw'r plant ddim ar y trampolins, mae'n gyfle i'r staff gael tro

Cystadleuwyr medal y dysgwyr
Disgrifiad o’r llun,

Cystadleuwyr medal y dysgwyr: Rebecca Morgan, Jessica Harvey, Alys Williams a Jonas Rajan

steve
Disgrifiad o’r llun,

Llywydd y dydd heddiw, Steve Hughson

platiau
Disgrifiad o’r llun,

Plîs peidiwch â thrio hyn adref gyda phlatiau gorau Mam a Dad!

rhys meirion
Disgrifiad o’r llun,

Does dim dal pwy welwch chi'n cerdded drwy'r dorf! 'Sgwn i am beth mae Rhys Meirion yn chwilio?

mae'n bwysig gael hoe i ddal lan gyda'ch negeseuon weithiau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig cael hoe i ddal lan gyda'ch negeseuon weithiau

Oes gwersi ukelele heavy metal yn cael eu cynnal heddiw ar y Maes
Disgrifiad o’r llun,

Oes gwersi ukelele 'heavy metal' yn cael eu cynnal heddiw ar y Maes?

bbc
Disgrifiad o’r llun,

Plant Ysgol Gynradd Llanrug yn perfformio yng nghystadleuaeth llefaru blwyddyn 6 a iau

Mae'n bwysig cael trefn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig cael trefn, bob amser

HMS Morris
Disgrifiad o’r llun,

HMS Morris yn perfformio ar lwyfan y Maes heddiw

Mwy o'r Urdd: