AC yn 'lwcus i fod yn fyw' wedi diagnosis canser

Mae Aelod Cynulliad sy'n dioddef o ganser y coluddyn yn dweud ei fod yn "lwcus i fod yn fyw" a bod meddygon wedi "cynnig ail gyfle" iddo.

Daeth Steffan Lewis, 33, yn agos iawn i golli'r frwydr â chanser yn ôl ym mis Chwefror, cyfnod lle'r oedd o yn "teimlo ei hun yn llithro".

Daeth Mr Lewis i wybod fod ganddo ganser pedwerydd cyfnod ym mis Rhagfyr y llynedd a dim ond trwy "arbenigedd" staff Ysbyty Felindre cafodd ei fywyd ei achub ar y pryd, yn ôl yr AC.

Ychwanegodd: "Mae hi'n bwysig i mi allu meddwl yn ôl i faint mor lwcus 'i fi i fyw, ond ar yr un pryd meddwl am ba mor agos o'n i i ddim goroesi."

Bydd ACau ac ASau nawr yn cymryd rhan mewn taith gerdded i godi arian i Ysbyty Felindre yn ei enw ef ym mis Gorffennaf.