Lluniau: Dydd Sadwrn Eisteddfod yr Urdd 2018
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod olaf y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maesyfed a Brycheiniog 2018, roedd yr haul yn gwenu ar griw ifanc y Pasiant Meithrin ac ar aelodau hŷn yr ysgolion ac aelwydydd.

Roedd Phoebe o gylch meithrin lleol yn cymryd rhan yn y Pasiant Meithrin ar lwyfan yr Eisteddfod fore Sadwrn ar y thema 'Rhy Gynnar i'r Sioe'!

Bu'r ddau ffrind direidus yma o un o gylchoedd meithrin yr ardal yn canu am eu hoff anifeiliaid

Aelwyd Llangwm enillodd y gystadleuaeth Ensemble Lleisiol, am eu fersiwn nhw o'r gân Watsia Di Dy hun gan Meinir Lloyd. Mae'r gân o 1969 wedi ei gwneud yn enwog unwaith eto ar raglen Tudur Owen ar BBC Radio Cymru

Mae Osian - o'r band Candelas yn cystadlu gyda chriw Aelwyd Penllyn yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn. Mae'n perfformio o fath gwahanol gyda'r nos, Candelas sy'n cloi'r Eisteddfod yn y gig ar Lwyfan y Maes

Mae rhai cystadlaethau'n cael eu cynnal ar Lwyfan y Maes ym mhentref Mistar Urdd. Mae Carys o Ysgol Y Preseli yn cystadlu ar yr Offer Taro bl 10 a dan 19 oed.

Criw Aelwyd Pantycelyn

Mae'n ddiwrnod mawr i'r myfyrwyr ac Aelwydydd ar y Maes ddydd Sadwrn. Mae Nerys, Elin ac Elain o Aelwyd JMJ, Bangor yn cystadlu mewn chwe cystadleuaeth heddiw.

Gwern, Glwys a Lleu yn pedlo i greu trydan ar stondin Llywodraeth Cymru.

Mwynhau yn yr haul wrth i'r ŵyl ddod i ben

Fedrwch chi ddim gadael y Maes heb gael hunlun gan y dyn ei hun... Mistar Urdd!
Mwy o'r Urdd: