Trafod caniatáu mwy o adweithyddion yn Wylfa Newydd

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y byddan nhw'n trafod y posibilrwydd o adeiladu rhagor o adweithyddion ar safle Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion 9 mae cwmni Horizon, sy'n gyfrifol am y cynllun, wedi pwysleisio mai opsiwn tymor hir yn unig fyddai datblygiad o'r fath.

Ond mae ymgyrchwyr gwrth niwclear wedi condemnio'r syniad. Adroddiad Siôn Tecwyn.