Criw ffilmio Hollywood yn atgyweirio ffordd ger Bangor

Mae twll yn y ffordd ger Bangor a oedd wedi achosi cryn ddrwgdeimlad yn lleol wedi ei drwsio gan griw ffilm o Hollywood.

Bu trigolion lleol yn cwyno am gyflwr y ffordd ers sbel gan fod "neb yn fodlon gwneud unrhywbeth" am y mater, ac ar ei waethaf roedd y twll yn mesur hyd at 1.5 metr.

Roedd ochr Bangor o Bont Menai wedi'i thrawsnewid fore Sul tra bod golygfa ar gyfer The Voyage of Dr Dolittle, sy'n cynnwys yr actor enwog Robert Downey Jr yn y brif ran, yn cael ei ffilmio.

Fel rhan o'r cytundeb i ffilmio ar y bont, fe gytunodd y criw i atgyweirio'r ffordd.

Dywedodd Gareth Jones, dyn busnes lleol, ei bod hi'n "beth da fod y ffilm yn cael ei wneud yma neu byddai'r twll dal yno mewn chwe mis".

Mae disgwyl i'r ffilm, sydd hefyd yn cynnwys actorion enwog megis Emma Thompson, Antoninio Banderas a'r Cymro, Michael Sheen, gael ei ryddhau yn 2019.