Ymateb 'cadarn' gan Lywodraeth Cymru i Pinewood

Mae Llywodraeth Cymru erbyn hyn yn talu Pinewood i reoli'r stiwdio ffilm a theledu yr oedd y cwmni yn arfer talu prydles amdani, yn ôl archwilwyr.

Mae adroddiad gan y Swyddfa Archwilio yn dweud nad yw'r galw disgwyliedig am ddefnyddio Stiwdio Pinewood Cymru wedi dwyn ffrwyth.

Dywed y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ddiwylliant, Dafydd Elis-Thomas, y bydd yn edrych ar yr adroddiad yn "ofalus".

Doedd o ddim yn y rôl pan brynodd y llywodraeth y safle yn 2015 ond mae'n dweud y bydd ymateb y llywodraeth yn "glir ac yn gadarn".