Angen buddsoddi mewn gofalwyr rŵan neu wynebu 'crisis'
Mae bron i hanner y bobl sy'n gofalu am aelod o'r teulu yng Nghymru wedi gorfod gadael eu swyddi yn ôl ymchwil gan Carers Wales.
Yn ôl yr elusen fe wnaeth 47% o ofalwyr gafodd eu holi stopio gweithio yn gyfan gwbl y llynedd.
Mae wedi lansio cynllun yn rhoi cyngor arbenigol i gyflogwyr, gan alw arnyn nhw i fod yn fwy cefnogol ac ymwybodol o anghenion pobl sy'n gweithio a gofalu am berthynas ar yr un pryd.
Yn ôl Ifor Glyn, cyfarwyddwr Prosiect Gofalwyr Abertawe, mae'n rhaid rhoi arian i'r maes ar frys er mwyn osgoi sefyllfa waeth yn y dyfodol.