Niwclear: Cyfle i Gymru 'arwain y byd'

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn dweud fod cyfle gwirioneddol i Gymru "arwain y byd" o ran technoleg ynni newydd.

Gwnaeth y sylwadau yn ystod cyhoeddiad gan lywodraethau Prydain a Chymru y bydd cyfleuster gwerth £40m yn cael ei ddatblygu yn Nhrawsfynydd i gefnogi cynllunio technolegau niwclear blaengar.

Bydd y cytundeb hefyd yn gweld buddsoddiad mewn technoleg i ostwng costau uchel y sector a gostwng biliau ynni, meddai.

Mae Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Greg Clark eisoes wedi dweud bod y cytundeb "yn nodi carreg filltir bwysig i'r llywodraeth a'r diwydiant".