Suzy Davies yn 'fodlon cydweithio' â Phlaid Cymru

Mae Suzy Davies wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll i fod yn arweinydd nesaf y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad.

Byddai hynny'n golygu bod cystadleuaeth i olynu Andrew RT Davies yn y swydd.

Mae'r arweinydd dros dro, Paul Davies, eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i sefyll.

Dywedodd Ms Davies hefyd y byddai'n fodlon cydweithio gyda Phlaid Cymru er mwyn disodli'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru.