Beth yw effaith y tywydd sych ar ffermwyr llaeth?

Mae ffermwyr llaeth yng Nghymru wedi rhybuddio y gallan nhw ei chael yn anodd goroesi'r haf os yw'r tywydd sych yn parhau.

Mae nifer yn dweud bod y gwair maen nhw'n ei ddefnyddio i fwydo eu gwartheg heb dyfu ers wythnosau, gan arwain at bryderon am fwydo eu hanifeiliaid yn y tymor hir.

Mae rhai ffermwyr yn dechrau rhedeg allan o dir pori addas i'w gwartheg yn barod, ac mae disgwyl i'r tywydd sych a phoeth barhau am o leiaf pythefnos arall.

Dywedodd Aled Rees, sy'n rhedeg fferm laeth organig yn Sir Benfro, ei fod erioed wedi profi amodau o'r fath.