Darlledwr yn cydnabod cyfraniad Radio Glangwili

Wrth i'r Gwasanaeth Iechyd ddathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu, un elfen bwysig yn ysbytai ar draws Cymru yw cyfraniad y gwirfoddolwyr i godi hwyliau cleifion drwy gyflwyno rhaglenni radio.

Fe gafodd Radio Glangwili ei sefydlu 45 mlynedd yn ôl, bellach mae "44 gwirfoddolwr a naw ar y rhestr aros" ac mae'r gwasanaeth yn mynd yn "gryfach nag erioed" yn ôl Ian Williams.

Dyma olwg ar rai o gyflwynwyr presennol Radio Glangwili.

Mae Mr Williams hefyd yn adrodd hanes rai o wynebau a lleisiau cyfarwydd Cymru sydd wedi dechrau eu gyrfaoedd yn cyflwyno ar donfeddi'r ysbyty.