Profiad Mia Lloyd, 11 oed, o ddioddef o gyflwr sarcoma

Mae rhieni o Geredigion wedi annog eraill i fod yn wyliadwrus o symptomau ar ôl i'w merch 11 oed orfod colli ei choes yn sgil y cyflwr.

Math prin o ganser yw sarcoma sydd yn effeithio ar yr esgyrn ynghyd â meinwe meddal y corff.

Dywedodd Mia nad oedd yw hi'n cofio llawer am gyfnod ei salwch gan ei bod hi "mewn shwd gymaint o boen".

Cafodd hi wybod y llynedd bod ganddi Ostesarcoma - neu diwmor uwchben ei phen-glin yn ei choes chwith - a bod y canser hefyd wedi lledaenu i'r ysgyfaint.

Cafodd lawdriniaeth fawr ym Mirmingham i dynnu ei choes ym mis Hydref y llynedd, cyn ailgychwyn ar bedwar mis o driniaeth cemotherapi dwys yng Nghaerdydd.

Daeth triniaeth Mia i ben rhyw 20 wythnos yn ôl, ac mae ei mam yn dweud ei bod hi'n bwysig i rieni fod yn wyliadwrus am y clefyd sy'n medru cael effaith ddifrifol ar blant a phobl ifanc.