Agor parc i blant anabl er cof am ffrind fu farw
Mae parc ar gyfer plant anabl wedi agor yng Nghastell-nedd er cof am ferch naw oed, Rhianna Chellew, fu farw o diwmor ar yr ymennydd yn 2016.
Fe wnaeth ei ffrind, Kobi Barrow, helpu sefydlu elusen Rhianna's Swing er mwyn gosod cyfleusterau chwarae i blant anabl ym Mharc Gnoll er cof amdani.
Yma mae'n son am yr hyn arweiniodd at ddechrau'r elusen.
Breuddwyd Kobi, sy'n 10 oed, oedd creu parc fel y gallai plant anabl, gan gynnwys rhai mewn cadair olwyn, chwarae yno hefyd.
Bu'n rhaid i Rhianna, o Abertawe, gael triniaeth frys i achub ei bywyd ddiwrnod yn unig wedi iddi gael ei geni, ac fe wnaeth hi synnu meddygon gan fod yn holliach i fynd adref o fewn mis.
Ond ym mis Ebrill 2015 cafodd ei theulu wybod ei bod yn dioddef o ganser, a bu farw ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach.