Bechgyn yn ffodus i ddianc heb anaf wrth blymio o graig

Mae'r heddlu ac arbenigwr mynydda wedi rhybuddio pobl am y peryglon o chwarae mewn hen chwareli.

Daw'r rhybudd ar ôl i fideo ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn dangos bachgen yn plymio i lyn o lethr llechen uchel yn Llanberis.

Yn syth wedi i'r bachgen cyntaf neidio, fe ddaeth darn o'r graig i lawr tu ôl iddo, ond ni chafodd y bechgyn eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i rieni fod yn ymwybodol o'r peryglon, gan bwysleisio nad yw chwareli a llynnoedd yn lefydd diogel i nofio a phlymio.

Dywedodd Elfyn Jones o Gyngor Mynydda Prydain fod hen chwareli yn "eithriadol o beryglus" gan bwysleisio pa mor lwcus oedd y bechgyn.