Camwahaniaethu yn erbyn disgybl anabl yn 'erchyll'
Mae teulu o Borthmadog wedi ennill tribiwnlys yn erbyn eu hysgol gynradd leol ar ôl i'w mab anabl golli bron i bedair wythnos o'r ysgol am nad oedd cymhorthydd arbenigol ar gael i'w helpu.
Mae gan y disgybl, nad ydyn ni am enwi, gyflwr Prader Willi, sy'n effeithio ar ei gyhyrau a'i ddatblygiad, yn ogystal ag epilepsi cymhleth.
Mae Cyngor Gwynedd ac Ysgol Eifion Wyn yn derbyn y dyfarniad, gan ddweud eu bod wedi gweithredu'r argymhellion yn llawn.
Ychwanegon nhw fod mwy o staff wedi'u hyfforddi erbyn hyn i helpu'r disgybl.
Dywedodd mam y bachgen, Medwen Edwards bod y sefyllfa wedi bod yn un "erchyll" a'u bod yn teimlo "anghyfiawnder" am y camwahaniaethu.