Pryder am golli swyddi radio lleol yn sgil newidiadau

Mae 'na rybudd y gallai swyddi gael eu colli mewn rhai ardaloedd yng Nghymru petai newidiadau i radio lleol yn dod i rym.

Mae corff sy'n goruchwylio darlledu, Ofcom, yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion allai olygu bod gorsafoedd masnachol yn darlledu llai ar draws ardaloedd mwy.

Mae 'na le i gredu hefyd - o dderbyn trwydded newydd - na fydd Radio Ceredigion yn darlledu yn Gymraeg. Dafydd Evans sydd â'r hanes.