Pam fod y gêm gyfrifiadurol Fortnite mor boblogaidd?
Ers ei chyhoeddi yn 2017, mae Fortnite wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg plant ac oedolion, gyda rhyw 40 miliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd.
Mae arbenigwr blaenllaw yn credu fod modd benthyg technegau sy'n cael eu defnyddio mewn gemau cyfrifiadurol fel Fortnite i wneud gwersi'n fwy atyniadol i blant.
Er bod angen bod yn ymwybodol o rai o'r effeithiau negyddol sydd ynghlwm â gor-chwarae gemau cyfrifiadurol mae modd defnyddio rhai elfennau o chwarae gemau o fewn y byd addysg, yn ôl yr Athro Paul Howard-Jones.
Steffan Powell o BBC Newsbeat sy'n egluro pam fod gêm Fortnite wedi dod mor boblogaidd, mor sydyn.