Cefnogwyr yn darogan 'wythnos anodd' i Thomas
Mae "nifer fawr" o Gymry wedi teithio i wylio'r Tour de France yn ôl dau o Ynys Môn.
Bu Sarah ac Eurig Evans yn gwylio cymal diweddaraf y ras, lle lwyddodd Geraint Thomas i ddal ei afael ar y crys melyn am y pumed diwrnod yn olynol.
Roedd Mr Evans yn rhagweld wythnos olaf anodd i Thomas, ond yn gobeithio am y gorau i'r Cymro.
Bydd diwrnod o seibiant ddydd Llun cyn y cymal nesaf o'r ras ddydd Mawrth.