Y Sioe Fawr: Lluniau dydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae uchafbwynt y calendr amaethyddol wedi dechrau'n swyddogol. Dyma olwg ar rai o'r golygfeydd ar ddiwrnod agoriadol Sioe Fawr 2018 yn Llanelwedd:

Un o'r stalwyni cob yn paratoi i fynd i'r prif gylch ar gyfer y gystadleuaeth hynod boblogaidd.

Elgan Pugh (agosaf i'r camera) o'r Parc ger Y Bala yn cystadlu gyda'r fwyell. Ail oedd Elgan heddiw, tu ôl i Brian Palsgaard o Ddenmarc.

Beryl Vaughan (ar y chwith) gyda'i gŵr (John ar y dde) o Lanerfyl oedd yn agor y Sioe eleni.

Hefyd o Lanerfyl mae Tom Tudor (canol) - llywydd y sioe eleni - gyda'i wraig, Ann.

Mari, sy'n 10 oed, yn y cefn gyda'i brawd bach, Tudur, wyth, a'i chwaer Gwenno, pedair, o Benrhyndeudraeth yn sefyll mewn peiriant pwyso defaid.

Y sied ddefaid o'r balconi - cannoedd o ddefaid yn cael eu paratoi cyn cystadlu.

Brawd a chwiorydd, Jessica, Jack ac Abbie gyda'u ffrind Zoe, sydd wedi dod yr holl ffordd o Cumbria i Lanelwedd i fwynhau'r hufen iâ.

Ifan Jones Evans, Dai Jones a gweddill tîm sylwebu S4C yn trafod safon y teirw.

Ar garlam, y ceffylau milwrol yn rhoi sioe i'r miloedd a oedd yn gwylio.

Roedd digon o hwyl i'w gael yn y gwersi canŵio a chwrwgl ar y llyn.

Theo, sy'n bedair oed, a'i frawd mawr Harry, pump, o Gaerwrangon yn cael tro ar gefn tractor.

Martyn ac Anitta o Ben-y-bont ar Ogwr yn mwynhau blodau'r cleddyf (gladiolus).

Roedd y cystadlu'n ffyrnig yng nghorlan y gof, a bu'n rhaid cymryd gofal wrth ymdrin â'r pedolau.

Hefyd o ddiddordeb: