Y Sioe Fawr: Lluniau dydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Diwrnod braf a phoeth arall yn Llanelwedd. Dyma oedd y diwrnod olaf, ond doedd hynny ddim yn golygu fod pethau'n arafu...

Cyn i'r holl gwsmeriaid gyrraedd, mae angen tynnu pob un darn o lwch a sicrhau fod y peiriannau sydd ar werth yn sgleinio ac yn edrych ar eu gorau.

Mae'r teulu Williams wedi cyrraedd Cylch y Ceffylau yn gynnar er mwyn gwylio'r cystadlu... ac mae'n rhaid gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu gweld yn iawn.

Nid dafad gyffredin mo hon... Dyma gacen novelty fuddugol Mrs Kathleen King ar y thema 'dafad'. Meee-lys...

Mae angen digon o gyhyrau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma.

Dyma Fudge y mochyn cwta. Fel roedd yr arwydd ar ei gawell yn ei bwysleisio, dydy o ddim mor flasus ag y mae ei enw yn ei awgrymu, ond mae o'n ciwt iawn.

Rhaid cofio dilyn yn ôl troed yr un o dy flaen...

Daw Jim Thomson o Ddyffryn Teifi i arddangos y cyryglau yma yn y Sioe bob blwyddyn.

Mae Hannah o Elmswell wedi cael dod i'r Sioe am y tro cyntaf - ar ôl clywed straeon o phan roedd ei thad yn ymweld pan roedd yn fachgen bach - ac wedi gwneud ffrind newydd!

Dyma Sioe gyntaf Sophie hefyd. Roedd y cocker spaniel 14 mis oed yn dangos sut i ôl pethau o'r dŵr mewn arddangosfeydd gan gŵn adar.

Mae'r adran goedwigaeth yn llawn peiriannau anferthol.

Mesur ddwywaith... torri unwaith... Roedd cystadleuaeth gwaith coed y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn gofyn i barau adeiladu eitem a fyddai'n addas ar gyfer parc chwarae plant, a hynny mewn dwy awr.

Ar ôl awr, roedd pethau'n dechrau siapio...

Mae Daniel o Lanfair-ym-Muallt wrth ei fodd yn chwarae ar y teganau gorffenedig!

Mae Tanya yn dipyn o giamstar ar bysgota, ac yn helpu ei thad gydag arddangosfeydd pysgota â phluen, fel ymarfer ar gyfer cynrychioli Cymru yr wythnos nesa'.

Shelley King o Awstralia oedd enillydd y cneifio i ferched, ond doedd Helen Evans o Gymru ddim yn bell y tu ôl iddi!

Mae'r bryncyn yma yn lle delfrydol i gael golygfa o'r cystadlu brwd sydd yn y Prif Gylch.

Welwn ni chi eto flwyddyn nesa'!

Hefyd o ddiddordeb: