Tîm o Ferthyr Tudful yn 'ganolog' i adnodd meddygol

Mae adnoddau arlein i gleifion gafodd eu datblygu gan ysbyty ym Merthyr Tudful bellach yn cael eu defnyddio ledled y byd.

Cafodd DVD ar gyfer cleifion sydd â chanser y coluddyn ei greu yn Ysbyty'r Tywysog Charles 10 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae'r "syniad syml" wedi tyfu.

Erbyn hyn mae adnoddau arlein er mwyn hyfforddi staff ar gael, ac mae'n fwriad datblygu deunydd tebyg ar gyfer cleifion â chyflyrau eraill.

Yn ôl Dr Rhodri Davies, ymgynghorydd radioleg, tyfodd y ffilm wreiddiol gyda'r "tîm yn hollol ganolog i'r peth".