1000 yn llai yn astudio cyrsiau prifysgol cyfrwng Cymraeg

Mae bron i 1,000 yn llai o fyfyrwyr prifysgol wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ystadegau'r llywodraeth.

Dangosai waith ymchwil gan Newyddion 9 fod 6,870 o fyfyrwyr yn astudio o leiaf peth o'u cyrsiau drwy'r Gymraeg yn 2016/17, o'i gymharu â 7,780 flwyddyn ynghynt.

Mae ffigyrau'n dangos bod cwymp sylweddol wedi bod ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle roedd dros 1,000 yn llai na'r flwyddyn gynt yn astudio drwy'r Gymraeg.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod am gael "eglurder pellach" am y cwymp.