Ffrwydradau mewn cyrch heddlu yng Nghaerfyrddin
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dau berson ar ôl i swyddogion arfog gael eu galw i ddigwyddiad yng Nghaerfyrddin.
Cafodd ffrwydradau llonyddu eu defnyddio yn ystod y cyrch.
Cafodd 30 o dai yn ardal Heol Dŵr eu gwagio, a ni chafodd unrhyw un ei anafu.