Balchder pobl Merthyr Tudful yn eu tref
Mae mwy o bobl ym Merthyr Tudful yn gweithio erbyn hyn na chyfartaledd gweddill Cymru, yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru.
Ym mis Mawrth 2018, 5.7% o'r boblogaeth oedd yn ddi-waith - sy'n uwch na'r cyfartaledd ond yn is na threfi eraill yn y cymoedd.
Mae'r gyfradd cyflogaeth yn 74%, ffigwr uwch na chyfartaledd Cymru o 72.7%.
Dywed trigolion Merthyr Tudful eu bod yn falch bod y ddelwedd negyddol o'r dref yn cael ei thrawsnewid.
Mae Ann Hickey yn croesawu twristiaid o ben draw'r byd i'w thŷ gwyliau yn y dref.