Cefnogwyr yn rhoi croeso cynnes i'w harwr Geraint Thomas

Mae miloedd o bobl wedi bod ar strydoedd Caerdydd i groesawu Geraint Thomas yn swyddogol ar ôl ei fuddugoliaeth hanesyddol yn y Tour de France.

Cafodd y seiclwr 32 oed ei longyfarch gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a Llywydd y Senedd Elin Jones, ynghyd â 3,000 o bobl oedd wedi ymgynnull ym Mae Caerdydd o flaen y Senedd.

Dywed yr heddlu eu bod yn credu bod 5,000 yn rhagor ar hyd strydoedd canol y brifddinas.

Dywedodd Geraint Thomas wrth y dorf ei fod wedi ei syfrdanu a'i ryfeddu.