Oedi pellach i bont newydd dros y Ddyfi

Yn ardal Machynlleth mae pobl yn flin o glywed y gallai fod yna oedi pellach i'r cynlluniau am bont newydd dros Afon Dyfi.

Y bwriad gwreiddiol o'dd dechrau'r gwaith cyn diwedd y flwyddyn.

Ond mae Cyngor Tref Machynlleth wedi cael llythyr gan Lywodraeth Cymru sy'n dweud ei bod hi'n bosib y bydd angen cynnal ymchwiliad cyhoeddus.

Mwy gan Craig Duggan.