Pryder Eleri Surrey am ffin Gibraltar wedi Brexit
Mae Eleri Surrey, sy'n wreiddiol o Gwm Nedd, wedi byw yn Gibraltar ers 1989.
Roedd Ms Surrey yn un o'r bron 96% o bobl yno a bleidleisiodd yn erbyn Brexit yn y refferendwm ddwy flynedd yn ôl.
Gyda thua 99% o bobl Gibraltar wedi pleidleisio yn 2002 yn erbyn rheolaeth ar y cyd rhwng y DU a Sbaen, dywedodd Ms Surrey ei bod hi'n poeni am y dyfodol ar ôl Brexit.
"Efallai nid ydyn ni'n poeni cymaint ag oedden ni'n dilyn y bleidlais Brexit. Ond rydyn ni mor agos nawr. Dim ond ychydig dros chwe mis cyn Brexit.
"Mae'n mynd yn dynn ac mae angen gwneud penderfyniadau, mae angen cymryd camau, ac mae angen ychydig yn fwy arnom na geiriau o Loegr yn dweud wrthym 'ie, byddwn yn gofalu amdanoch chi'. Profwch hynny," ychwanegodd.