Darganfyddiad sy'n codi cwr y llen ar hanes Caerfyrddin
Mae archaeolegwyr yng Nghaerfyrddin wedi darganfod olion o grochenwaith Rhufeinig, sy'n awgrymu presenoldeb milwrol mwy amlwg yn y dref yn hanesyddol nag a gredwyd yn wreiddiol.
Cafodd pobl yr ardal gyfle i weld yr olion ar Heol y Prior am y tro olaf cyn y bydd fflatiau yn cael eu hadeiladu yno.
Y gohebydd Aled Scourfield aeth ar drywydd y darganfyddiadau ar ran Newyddion 9.