'Sgomer yw'r lle i weld y Drycin Manaw'

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn cynnal y cyfrifiad cyntaf o boblogaeth yr aderyn Drycin Manaw ar Ynys Sgomer ers dros ddegawd.

Un sy'n gwirfoddoli ac yn cynorthwyo'r ymddiriedolaeth yw Andrew Hughes.

Gyda dros 300,000 par o'r Drycin Manaw yn paru yno, yn ôl Mr Hughes, Sgomer yw'r lle i fynd os yw unrhyw un yn dymuno gwylio'r adar.

Dyma Andrew Hughes i egluro ychydig am rywogaeth yr aderyn ac am wirfoddoli ar Sgomer.