Senedd Ieuenctid: 'Pobl ifanc ddim angen bod yn dawel'

Mae Meg Escott, sy'n ofalwr ifanc, yn dweud y bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn golygu na fydd yn rhaid i bobl ifanc "fod yn dawel" am wleidyddiaeth mwyach.

Yr wythnos nesaf bydd pobl ifanc ar draws Cymru'n gallu gwneud cais i sefyll fel ymgeisydd yn etholiad cyntaf y Senedd.