Sut siâp fydd ar Gymru heno?
- Cyhoeddwyd
Adeg cystadleuaeth Euro 2016 (ydych chi'n cofio 2016?) daeth hi'n amlwg fod tîm dynion Cymru'n chwarae gêm fach breifat.
Sylwodd rhai fod lluniau'r tîm cyn y gêm yn dechrau cymryd ffurfiau mwy a mwy rhyfedd a 'sgî-wiff'... ac wrth gwrs, fe ymunodd tîm cenedlaethol y merched yn yr hwyl.
Nos Wener, bydd merched Cymru yn wynebu Lloegr yng Nghasnewydd gan wybod y bydd buddugoliaeth yn sicrhau lle yng Nghwpan y Byd 2019.
Ond sut fydd y chwaraewyr yn ffurfio ar gyfer y llun cyn y gêm tybed?
Dyma'r tro cyntaf i'r tîm arbrofi gyda'r syniad, yn eu gêm yn erbyn Kazakhstan yn Astana mis Medi llynedd.
Fe wnaethon nhw gario ymlaen i wneud. Dyma i chi'r llun gafodd ei dynnu o'r tîm cyn eu gêm yn erbyn Bosnia Herzegovina yn Zeneca mis Tachwedd y llynedd.
Y llun mwyaf cam eto! Mae'n beryg' tro nesa' mai dim ond 10 chwaraewr fydd yn y llun!
Rhai dyddiau ynghynt, dyma oedd eu hymdrech cyn eu gêm yn erbyn Kasakhstan yng Nghaerdydd. Beth mae Natasha Harding (dde) wedi gwneud i ypsetio pawb d'wedwch?
Dyma beth oedd lluniau tîm cyn y gêm yn arfer edrych fel... ond oedden nhw'n ddyddiau da?
O bosib y llun mwyaf rhyfedd hyd yn hyn, yn Stadiwm Libery mis Mehefin eleni cyn y gêm yn erbyn Bosnia Herzegovina.
'Doedd dim rhyfedd bod y tîm wedi malu Rwsia yng Nghasnewydd yn gynharach eleni gyda chynllun mor drefnus!
A'r gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr? Dyma nhw yn Southampton mis Ebrill eleni.
Mae hyd yn oed y tîm dan 19 wedi dechrau dilyn yr arferiad, fel cyn eu gêm yn erbyn Portiwgal mis Ebrill.
Does neb yn siŵr iawn beth yw gwraidd arferiad y tîm cenedlaethol o dynnu llun grŵp cam, ond mae'n dechrau edrych fel bod yn denu llwyddiant... dewch i obeithio!
Cofiwch bydd y gêm yn erbyn Lloegr heno ar gael i'w gwylio'n fyw ar Cymru Fyw. Cic gyntaf 19:45.