Prif Arolygydd Estyn yn croesawu newidiadau i'r cwricwlwm

Mae'r addysg yn ysgolion Cymru wedi gweld "rhai gwelliannau bychan" ond dim ond ar ôl i ddiwygiadau gael eu gweithredu y bydd yna gamau sylweddol, yn ôl y prif arolygydd ysgolion.

Y cwricwlwm newydd sydd wrth wraidd y newid mwyaf i addysg ers degawdau, meddai Meilyr Rowlands.

Dywedodd Mr Rowlands bod arwyddion o welliant mewn sawl maes gan gynnwys llythrennedd, rhifedd ac ymddygiad.

Ychwanegodd: "Er mwyn gweld gwelliant sylweddol mae angen newid sylweddol, a dyna pam dwi'n croesawu'r newidiadau, yn enwedig i'r cwricwlwm."