Mwy o gefnogaeth i blant yn 'hanfodol'

Mae plant sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol yn disgwyl yn rhy hir am gefnogaeth, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Yn ei adroddiad blynyddol, mae Sally Holland yn dweud bod y sefyllfa yn "annerbyniol", a'i bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod gan blant fynediad i gefnogaeth arbenigol cyn gynted â phosib ar ôl dioddef trawma.

Ychwanegodd bod plant sydd wedi cael eu cam-drin yn disgwyl yn rhy hir am gwnsela arbenigol a bod rhaid iddyn nhw deithio yn rhy bell i gael archwiliadau meddygol fforensig arbenigol yn dilyn ymosodiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai gofal i ddioddefwyr fod yn flaenoriaeth - a'u bod nhw'n edrych ar ddatblygu gwasanaeth trawma ar draws Cymru.