Coesau prosthetig arbenigol yn cael 'effaith anferthol'
Cafodd merch yr awdures Rebecca Roberts o Brestatyn, Elizabeth, ei geni gyda chyflwr fibular hemimelia, ac yn flwydd oed cafodd llawdriniaeth i dynnu ei choesau.
Yn ôl Ms Roberts byddai ei merch yn elwa o gael coesau prosthetig arbenigol ar gyfer chwaraeon, fel y rheiny sy'n cael eu defnyddio gan bara-athletwyr.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £1.5m i gronfa i wella'r ddarpariaeth yn Lloegr, ac mae Ms Roberts wedi dechrau deiseb i annog Llywodraeth Cymru i ddilyn eu hesiampl.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod pwysigrwydd coesau prosthetig i bobl ifanc a'u bod yn ystyried sut i'w darparu i gleifion.