Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid addysg

Wrth baratoi i agor campws newydd yn Shanghai, dywed Coleg Caerdydd a'r Fro bod Brexit yn helpu i hybu ei hincwm drwy recriwtio mwy o fyfyrwyr o China.

Mae'r cam â photensial i greu dros £3m y flwyddyn i'r coleg, ac yn esiampl wych o sut mae sefydliadau addysg yn gorfod addasu i realiti'r hyn y mae Brexit yn ei olygu, medd y corff sy'n cynrychioli'r sector addysg bellach.

Yn ôl Colegau Cymru, does dim dewis ond chwilio am ffyrdd newydd o greu incwm gan nad yw Llywodraeth Cymru "wedi ariannu colegau fel y dylen nhw wneud".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi amddiffyn cyllid i'r rhai ar gyrsiau addysg bellach llawn amser, er gwaethaf toriadau i'w chyllideb ei hun mewn cyfnod o lymder.

Dywedodd Iestyn Davies o Golegau Cymru bod gwaith Coleg Caerdydd a'r Fro yn "esiampl wych o sut mae colegau'n addasu i'r realiti o'r hyn mae Brexit yn ei olygu", ond mae'n pwyso ar y llywodraeth i wneud mwy i sicrhau cyllid i'r sector.