Statws gwarchodedig i eirin yn 'bositif i'r dyffryn'
Daeth cannoedd o bobl i Ddinbych ddydd Sadwrn ddathlu ffrwyth hanesyddol, wrth i ymgyrchwyr ddisgwyl i glywed a fydd yn derbyn statws gwarchodedig Ewropeaidd.
Mae Gwledd Eirin Dinbych nawr yn ei 10fed blwyddyn.
Y gred yw bod Eirin Dinbych wedi dechrau cael ei dyfu gan fynachod yn y 13eg ganrif, fyddai'n ei wneud yn hŷn nac eirin Fictoria, a'r unig eirin sy'n dod o Gymru.
Ond wrth i dechnegau ffermio ddatblygu, cafodd nifer o berllannau Dyffryn Clwyd eu colli, ac mewn gerddi preifat yn unig mae'r ffrwyth yn cael ei dyfu erbyn hyn.
Dywedodd Nia Williams o Grŵp Eirin Dinbych eu bod yn gobeithio clywed erbyn diwedd y flwyddyn os yw eu cais am statws gwarchodedig daearyddol gan yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn llwyddiannus.