'Damwain yn mynd i ddigwydd' ar yr A5 yn Eryri

Mae trigolion yn Eryri yn mynnu bod rhaid gweithredu i fynd i'r afael â phroblemau parcio ger Canolfan Ogwen ym mhen uchaf Nant Ffrancon.

Ar benwythnosau mae cerddwyr a dringwyr yn parcio ar ochr y ffordd ar yr A5, gan olygu bod ceir yn cael trafferth pasio ei gilydd a phobl ar y ffordd hefyd.

Mae'n "broblem enfawr" yn ôl Shan Ashton, sy'n byw gerllaw, a'i hawgrym hi yw sefydlu system parcio a theithio o feysydd parcio yng Nghapel Curig a Bethesda.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am ffordd yr A5, bod "gwaith ymchwil yn cael ei wneud i ddarganfod ffyrdd i wella'r sefyllfa".